Mae tîm diogelwch ffyrdd Abertawe’n gweithio’n galed i leihau nifer y bobl sy’n cael eu lladd neu eu hanafu ar ein ffyrdd bob dydd. Rydym yn darparu rhaglen addysgol sy’n dechrau o’r crud ac sy’n cynnig cefnogaeth a chyngor gydol oes i’n dinasyddion.
Mae’r broses yn dechrau trwy gysylltu â rhieni newydd mewn canolfannau iechyd, clinigau cyn geni ac ysbytai trwy godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cludo eu babanod a’u plant bach yn ddiogel.
Nesaf rydym yn cynnig addysg i rieni a phlant cyn oed ysgol trwy’r clwb traffig plant. Trwy’r clwb mae rhieni a’u plant yn derbyn ein hadnoddau am ddim bob chwarter, fel llyfrau stori a gêmau drwy’r post.
Pan fydd plentyn yn cyrraedd y dosbarth meithrin a’r ysgol gynradd rydym yn cynnig cymysgedd o gefnogaeth yn y dosbarth a hyfforddiant ymarferol, sy’n hanfodol i ddysgwyr ifanc.
Rydym yn cynnig hyfforddiant ymarferol i gerddwyr mewn ysgolion pump i saith oed trwy’r cynllun Kerbcraft. Yma mae’r plant yn dysgu am amgylchedd y ffordd o gwmpas yr ysgol a sut i adnabod peryglon.
Mae hyfforddiant beicio diogel ar gael i blant naw i unarddeg oed ac mae fel arfer yn digwydd ar ffyrdd a farciwyd ar iard yr ysgol. Mae’r grŵp oedran hwn hefyd yn mynd i’n setiau diogelwch ffyrdd yn y digwyddiad “criw croch” blynyddol, a gallant ymuno â’n clwb diogelwch ffyrdd iau.
Mae plant ysgol uwchradd yn cael amrywiaeth o gyfleoedd i wybod mwy am ddiogelwch ffyrdd wrth i ni fynd â’n sioe deithiol o ddigwyddiadau, arddangosiadau rhyngweithiol ac addysg ddrama diogelwch ffyrdd i’w hysgolion. Mae pobl ifanc sydd ar fin dysgu gyrru a gyrwyr ifanc yn ffocws i nifer o fentrau gan gynnwys y cynllun newydd Pass Plus Cymru. Mae hwn hefyd ar gael i golegau a lleoliadau eraill lle mae pobl ifanc dwy ar bymtheg i bump ar hugain oed.
Nid ydym yn esgeuluso defnyddwyr ffyrdd hŷn chwaith, ac rydym yn cynnig cefnogaeth a chyngor wedi’i deilwra ar eu cyfer.
Rydym yn gweithio gyda pheirianwyr traffig i roi blaenoriaeth i ddiogelwch ffyrdd mewn unrhyw gynlluniau traffig newydd neu sydd eisoes yn bodoli. Mae gan y cyngor gronfa ddata o dros ugain mlynedd o ddamweiniau traffig ffyrdd y mae’r heddlu wedi cael gwybod amdanynt yn ardal Abertawe, ac rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i dargedu ein hadnoddau. Rydym hefyd yn ymgynghori â phreswylwyr a grwpiau cymunedol am y materion sy’n achosi pryder iddynt.
Rydym yn gweithio gyda’r heddlu a’r bartneriaeth camerâu diogelwch i nodi a gorfodi’r materion hyn.
Rydym hefyd yn gyfrifol am batrolau croesfan ysgol – sef dynion neu menywod lolipop. Maen nhw’n cyflawni rôl hollbwysig wrth gadw plant yn ddiogel ger ysgolion. Os hoffech chi helpu i gadw plant yn ddiogel yn eich ardal chi, mae prinder cenedlaethol o staff patrolau croesfan ysgol, felly mae eich angen chi arnom!
Rydym yn mynd i ddigwyddiadau ar draws Abertawe i gyrraedd pob grŵp oedran ac i roi cyngor a gwybodaeth pryd bynnag y bo’n bosib. Ein nod yw annog pobl i ddefnyddio’r wybodaeth diogelwch ffyrdd sydd ganddynt yn barod: Peidiwch â pharcio ger gatiau’r ysgol, peidiwch ag yfed a gyrru, cofiwch wisgo eich gwregys diogelwch a phwyllwch!
Cadwch lygad ar agor amdanom y tro nesaf rydych chi allan neu gwrandewch am ein negeseuon ar y radio cenedlaethol a lleol, yn y sinema ac mewn llawer o fannau eraill yn y sir.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan neu ffoniwch ni ar y rhif cyswllt sydd ar y dudalen hon.
Contact Details:
website: www.swansearoadsafety.gov.uk
email: roadsafety@swansea.gov.uk
Phone: 01792 636 633